Wedi’i leoli yng Nghanolfan Bêl-droed Gôl yng Nghaerdydd, Gweithgareddau Gôl yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig cyfleoedd chwaraeon newydd a chyffrous mewn un lle.
Mae’r gweithgareddau newydd yn cynnwys:
- Pêl-droed Gogls / Goggle Football (Isafswm oedran 12+)
- Pêl-droed Swigod / Bubble Football (Isafswm oedran 7+)
- Saethyddiaeth ‘Battle Tag’ (Isafswm oedran 10+)
- Criced Turbo 10 (Isafswm oedran 7+)
- Mabolgampau Hen Ysgol / Old School Sports Day (Isafswm oedran 6+)
- Dodgeball i’r Eithaf (Isafswm oedran 6+)
Pam Cymryd Rhan yn Ein Gweithgareddau?
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rydym wastad wedi rhoi pwyslais ar sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl. Mae hyn yn amlwg ym mhopeth rydym yn ei wneud—o gynghreiriau pêl-droed i archebion caeau hirdymor.
Gyda lansiad Gweithgareddau Gôl, rydym yn falch o gynnig ein profiad helaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid i gwsmeriaid newydd, a chredwn y bydd Gweithgareddau Gôl yn rhoi diwrnod bythgofiadwy i chi yn llawn hwyl a chwerthin.
Ar Gyfer Pwy Mae’r Gweithgareddau?
Mae’r gweithgareddau yn berffaith ar gyfer:
- Partïon pen-blwydd plant
- Diwrnodau adeiladu tîm i gwmnïau
- Partïon ‘Stag’ a ‘Hen’
- Dathliadau diwedd tymor i dimau chwaraeon
- Neu dim ond grŵp o ffrindiau sydd eisiau gwneud rhywbeth gwahanol!
Beth yw’r Pris?
Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y gweithgaredd, p’un a ydych yn archebu i oedolion neu blant, a nifer y bobl. Defnyddiwch ein cyfrifiannell isod i gael amcangyfrif!
[Oedolion] [Plant]
Dewis Gweithgaredd:
- Pêl-droed Swigod (Bubble Football)
- Saethyddiaeth ‘Battlezone’
- Criced Turbo 10
- Dodgeball Eithafol
- Mabolgampau Hen Ysgol
- MegaMix (Unrhyw 2 Weithgaredd)
Nifer y Mynychwyr: [Cyfrifo Pris]
Ble Rydym Ni?
Cyfeiriad: Canolfannau Gôl Cyf, Lawrenny Ave, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8BR.
Dim ond 8 munud o daith dacsi yw hi Ganol Dinas Caerdydd i Gôl. Rydym hefyd yn hawdd i’w cyrraedd ar fws neu drên (taith gerdded 7 munud o’r safle). Wrth gwrs, os ydych chi eisiau cyrraedd y ffordd hen ffasiwn, gallwch gerdded o Gaerdydd Canolog mewn 25 munud.
Pa mor hawdd yw hi i bwcio?
Rydym yn ymfalchïo yng nghyfleustr ein proses archebu.
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ffonio 029 2037 5760 a bydd ein Cydlynwyr Gweithgareddau Gôl yn eich arwain trwy’r camau. Os ydych chi’n barod i fynd, ni ddylai’r broses gymryd mwy na 5 munud.Fel arall, i gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.