Mae Gôl yn cynnal strwythur cynghrair 5 bob ochr mwyaf y DU gyda dros 230 o dimau yn chwarae bob wythnos – a mwy yn ymuno bob wythnos! Efallai y bydd diddordeb gennych wybod ein bod hefyd yn cynnal cynghreiriau 7 bob ochr.
Beth yw Manteision Ymuno â’n Cynghreiriau yng Nghaerdydd?
- Technoleg Fideo: Fel y gwelwyd ar Soccer AM, Sport Bible a Wales Online. Rydym yn recordio 10 gêm y noson ac yn rhannu’r uchafbwyntiau gorau gyda dros 10,000 o ddilynwyr. Gallwch hefyd ail-wylio eich gêm gyda pheint yn ein bar ar y sgrin 50″ yn syth ar ôl y chwiban olaf.
- Trefniadaeth Gwych : Mae gennym enw da am gynnal y cynghreiriau mwyaf trefnus yn Ne Cymru. Yn wahanol i leoedd eraill, ychydig iawn o ganlyniadau 10-0 (gemau gwag) sydd gennym.
- Cyfleusterau: 11 cae 4G o’r radd flaenaf.
- Amgylchedd: Awyrgylch diogel, hwyliog a chystadleuol.
- Gwefan Fyw: Wedi’i diweddaru bob dydd gyda’r canlyniadau, tablau a gemau diweddaraf.
- Amrywiaeth: Cynghreiriau Dynion, Gwaith ac Ieuenctid ar gael.
- Y Safon Gywir: Gan mai ni yw’r mwyaf yn y DU, mae gwell cyfle o ddod o hyd i’r safon gywir i chi nag unrhyw le arall.
- Hyblygrwydd: Tymhorau 14/15 wythnos heb unrhyw rwymedigaeth i barhau wedyn. Perffaith ar gyfer timau sydd eisiau chwarae dros yr haf yn unig.
- Unigryw: Ni sy’n cynnig Yr UNIG gynghreiriau i ferched, yr UNIG gynghrair 5-bob-ochr ieunectid a’r UNIG cynghrair 5 bob ochr ar ddydd Sul yng Nghaerdydd Sul yng Nghaerdydd.
- Ystadegau: Mynediad i holl ystadegau’ch tîm, gan gynnwys rhediadau buddugol a chyfanswm goliau!
- Sgôr Tîm: Mae pob tîm yn cael sgôr yn seiliedig ar ganlyniadau, sy’n eich galluogi i drefnu gemau herio yn erbyn timau eraill.
Dyddiadau Dechrau’r Gynghrair
Barod i ddechrau? Edrychwch ar ddyddiadau dechrau ein cynghrair. Mae rhai cynghreiriau ar gael i ddechrau ar unwaith (gweler y tabl isod). Hyd yn oed os nad oes lle, byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr aros a chewch cynnig cyntaf ar unrhyw le sy’n dod yn rhydd.
Dewch i Weld Drosoch Eich Hun
I gael blas o’r hyn i’w ddisgwyl, cymerwch olwg ar rai o’r goliau rydym wedi’u dal ar Action Replay o’r ganolfan 5 bob ochr orau yng Nghaerdydd:
Sut i Ymuno â Chynghrair?
Mae ymuno yn syml iawn.
- Ar-lein: Defnyddiwch y dolenni cofrestru uchod.
- Ffôn: Ffoniwch ni ar 029 2037 5760.
- E-bost: Cysylltwch â cardiff@golcentres.co.uk a bydd ein cydlynwyr yn eich helpu.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnig COFRESTRU AM DDIM, ond gofynnwn am flaendal o £37 (ffi 1 gêm) ymlaen llaw cyn ymuno (caiff hwn ei ad-dalu ar ffurf eich gêm olaf gyda ni yn rhad ac am ddim).
Os na allwch ein ffonio ar hyn o bryd ond hoffech i ni gysylltu â chi, llenwch ein ffurflen ymholiad isod: