Gweithgareddau

Wedi’i leoli yng Nghanolfan Bêl-droed Gôl yng Nghaerdydd, Gweithgareddau Gôl yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig cyfleoedd chwaraeon newydd a chyffrous mewn un lle.

Mae’r gweithgareddau newydd yn cynnwys:

  • Pêl-droed Gogls / Goggle Football (Isafswm oedran 12+)
  • Pêl-droed Swigod / Bubble Football (Isafswm oedran 7+)
  • Saethyddiaeth ‘Battle Tag’ (Isafswm oedran 10+)
  • Criced Turbo 10 (Isafswm oedran 7+)
  • Mabolgampau Hen Ysgol / Old School Sports Day (Isafswm oedran 6+)
  • Dodgeball i’r Eithaf (Isafswm oedran 6+)

Pam Cymryd Rhan yn Ein Gweithgareddau?

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rydym wastad wedi rhoi pwyslais ar sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl. Mae hyn yn amlwg ym mhopeth rydym yn ei wneud—o gynghreiriau pêl-droed i archebion caeau hirdymor.

Gyda lansiad Gweithgareddau Gôl, rydym yn falch o gynnig ein profiad helaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid i gwsmeriaid newydd, a chredwn y bydd Gweithgareddau Gôl yn rhoi diwrnod bythgofiadwy i chi yn llawn hwyl a chwerthin.

Ar Gyfer Pwy Mae’r Gweithgareddau?

Mae’r gweithgareddau yn berffaith ar gyfer:

  • Partïon pen-blwydd plant
  • Diwrnodau adeiladu tîm i gwmnïau
  • Partïon ‘Stag’ a ‘Hen’
  • Dathliadau diwedd tymor i dimau chwaraeon
  • Neu dim ond grŵp o ffrindiau sydd eisiau gwneud rhywbeth gwahanol!

Beth yw’r Pris?

Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y gweithgaredd, p’un a ydych yn archebu i oedolion neu blant, a nifer y bobl. Defnyddiwch ein cyfrifiannell isod i gael amcangyfrif!

[Oedolion] [Plant]

Dewis Gweithgaredd:

  • Pêl-droed Swigod (Bubble Football)
  • Saethyddiaeth ‘Battlezone’
  • Criced Turbo 10
  • Dodgeball Eithafol
  • Mabolgampau Hen Ysgol
  • MegaMix (Unrhyw 2 Weithgaredd)

Nifer y Mynychwyr: [Cyfrifo Pris]


Ble Rydym Ni?

Cyfeiriad: Canolfannau Gôl Cyf, Lawrenny Ave, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8BR.

Dim ond 8 munud o daith dacsi yw hi Ganol Dinas Caerdydd i Gôl. Rydym hefyd yn hawdd i’w cyrraedd ar fws neu drên (taith gerdded 7 munud o’r safle). Wrth gwrs, os ydych chi eisiau cyrraedd y ffordd hen ffasiwn, gallwch gerdded o Gaerdydd Canolog mewn 25 munud.


Pa mor hawdd yw hi i bwcio?

Rydym yn ymfalchïo yng nghyfleustr  ein proses archebu.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ffonio 029 2037 5760 a bydd ein Cydlynwyr Gweithgareddau Gôl yn eich arwain trwy’r camau. Os ydych chi’n barod i fynd, ni ddylai’r broses gymryd mwy na 5 munud.Fel arall, i gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.