Pêl-droed Swigod Caerdydd

Archebwch yn Uniongyrchol ac Arbedwch Arian! Y Lleoliad Pêl-droed Swigod Swyddogol yng Nghaerdydd.

Profwch yr hwyl o bêl-droed swigod yng Nghaerdydd yma yn Gôl! Pan fyddwch yn bwcio gyda ni, rydych yn bwcio’n uniongyrchol gyda’r lleoliad. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael y pris gorau posibl, gan dorri mas y ‘dyn canol’ ac unrhyw ffioedd asiantaeth ychwanegol.

Mae pêl-droed Zorb yn ddigwyddiad perffaith i ddechrau’ch penwythnos, p’un a ydych chi’n grŵp stag neu hen, yn cynllunio diwrnod corfforaethol, neu ddim ond eisiau gweithgaredd bythgofiadwy gyda ffrindiau.


Ein Prisiau a Phecynnau Archebu Uniongyrchol

Pam Archebu yn Uniongyrchol?

Ni yw’r lleoliad swyddogol! Mae llawer o asiantau ar-lein a gwefannau bwcio yn gwerthu ein pecynnau Pêl-droed Swigod am bris uwch. Trwy bwcio’n uniongyrchol gyda ni, rydych yn gwarantu’r pris isaf posibl ac yn cael cysylltiad uniongyrchol â’r tîm fydd yn cynnal eich digwyddiad. Torrwch mas y dyn canol ac arbedwch!

Cyfrifwch Eich Pris

[Oedolion] [Plant]

Dewiswch Weithgaredd:

  • Pêl-droed Swigod (Bubble Football)
  • Saethyddiaeth ‘Battlezone Archery’’
  • Criced Turbo 10
  • Dodgeball 
  • Mabolgampau (School Sports Day)
  • MegaMix (Unrhyw 2 Weithgaredd)

Nifer y Mynychwyr:

[Cyfrifo Pris]

Enghraifft o Brisiau

Nifer y ChwaraewyrPris y Pen
10£25.00
15£23.33
20£22.50
25£22.00

Mae Pob Pecyn yn Cynnwys:

  • Llogi Cae 4G Preifat
  • Cydlynydd Digwyddiad 
  • 10 Swigen Zorb 
  • Pob Pêl ac Offer
  • Gemau Swigod Llawn Hwyl

Nodweddion Ein Lleoliad

  • Caeau 4G pob tywydd
  • Parcio ar y safle yn rhad ac am ddim
  • Bar Chwaraeon Trwyddedig gyda Theledu
  • Bwyd Poeth ac Oer ar Gael
  • Ystafelloedd Newid 
  • 5 munud o Ganol y Ddinas

Pam Bwcio Gôl?

Mae pêl-droed swigod bellach yn un o’r  gweithgareddau grŵp mwyaf poblogaidd gan gyfuno chwaraeon a hurtrwydd am sesiwn fythgofiadwy. Rydym yn cynnal cannoedd o weithgareddau stag a hen llwyddiannus bob blwyddyn ac wedi perffeithio’r profiad i warantu’r hwyl mwyaf. Ni yw darparwr pêl-droed swigod sy’n rhoi y gwerth gorau am arian a sy mwyaf cyfleus yng Nghaerdydd.


Beth Mae Ein Ymwelwyr yn ei Ddweud

Ein nod yw sicrhau bod eich sesiwn y gorau posibl ac mae gennym yr adolygiadau i brofi hynny!

“Parti Zorb hollol anhygoel y bore yma yn Gôl. Cafodd y bechgyn amser anhygoel, gwerth gwych am arian ac rwy’n ei argymell yn fawr! 5/5.”

– Paul Light

“Daethom yma am barti ‘hen’ dros y penwythnos a chafodd yr 8 ohonom gymaint o hwyl yn ‘zorbio’ – sesiwn awr gyda llwyth o weithgareddau gwahanol wedi’u trefnu ar ein cyfer ac awyrgylch hwyliog a hamddenol iawn! Roedd y staff yn hyfryd iawn hefyd. Mae pob un ohonom eisiau dod eto a byddwn yn argymell yn fawr i eraill. Diolch!”

– Emily Hawkes


Dewch o Hyd i Ni a Bwcio

Rydym wedi ein lleoli yn Canolfannau Gôl Cyf, Lawrenny Ave, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8BR, dim ond taith tacsi 8 munud o Ganol Dinas Caerdydd.

Sut Alla i Bwcio?

Mae archebu eich sesiwn pêl-droed zorb mor syml â dim. Ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 029 2037 5760 gyda’ch dewis ddyddiad ac amser, neu llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi gydag argaeledd!