Ymunwch â Chynghrair Pêl-droed 5 bob ochr Merched Gôl Caerdydd
Croeso i’n Cynghrair Merched – yr unig gynghrair pêl-droed 5 bob ochr bwrpasol yn Ne Cymru. Ymunwch â chymuned fywiog lle mae pêl-droed yn cyfarfod cyfeillgarwch, ffitrwydd a hwyl!
- Mae timau yn talu dim ond £37 y tîm, y gêm.
- Gall unigolion gofrestru am ddim ond £5 a chânt eu rhoi mewn tîm croesawgar!
Os hoffech gofrestru neu os am fwy o wybodaeth, llenwch ein ffurflen ymholiad isod a bydd un o’n staff cyfeillgar yn rhoi’r holl fanylion sydd eu hangen arnoch i ddechrau chwarae gyda merched o’r un anian yng Nghaerdydd!
Ar Gyfer Pwy?
- Merched o bob lefel sgiliau a ffitrwydd.
- Unigolion a thimau sy’n chwilio am amgylchedd chwarae cyfeillgar a chefnogol.
- Unrhyw un sy’n chwilio am ffordd hwyliog o gadw’n heini a chymdeithasu’n wythnosol.
Pryd a Lle?
- Pryd: Bob dydd Mawrth (cicio cyntaf fel arfer rhwng 6:15yh – 8:30yh).
- Lle: Canolfannau Gôl Caerdydd, gyda chaeau 4G o’r radd flaenaf, ystafelloedd newid diogel, cawodydd, toiledau, a bar a lolfa ar y safle ar gyfer cymdeithasu ar ôl y gêm.
Pam Chwarae Gyda Ni?
- Cynhwysol a Chroesawgar: Dim profiad? Dim problem! Dim ond brwdfrydedd sydd ei angen.
- Cymdeithasol a Chyfeillgar: Cwrdd â ffrindiau newydd a theimlo’n rhan o gymuned.
- Ffitrwydd Hwyliog: Cadwch yn heini heb undonedd y gampfa—pêl-droed fydd eich hoff ffordd newydd o ymarfer corff.
- Hyblyg: Tymhorau byr, hylaw. Dim rhwymedigaeth hirdymor.
Cipolwg ar y Gynghrair:
- Adrannau hamddenol a chystadleuol ar gael.
- Croeso i gofrestriadau unigol—byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i dîm.
- Cymuned anhygoel lle mae pob tîm yn croesawu chwaraewyr newydd.
- Digwyddiad cymdeithasol rheolaidd.
- Gwella eich iechyd corfforol a meddyliol (fel y gwelir yn ein post blog).
Clywch Gan Ein Chwaraewyr
“Ymuno â’r gynghrair 5 bob ochr oedd un o’r pethau gorau dwi wedi’i wneud. Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd ac wedi gwthio fy hun allan o fy nghylch cysur. Dwi’n teimlo’n fwy ffit a hapusach bob wythnos.” – Niamh, 25
“Tan fis Ionawr llynedd doeddwn i erioed wedi cicio pêl! Ar ôl bod yn rhan o’r gynghrair ers y gêm gyntaf, mae wedi bod yn anhygoel dysgu a chael amser gwych mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol. Mae gweld pawb yn y tîm yn gwella bob wythnos yn anhygoel, nosweithiau Mawrth yw’r gorau!” – Hollie, 39
“Gôl yw’r lle perffaith i chwaraewyr o bob lefel ymarfer a chael hwyl. Mae’r cyfleusterau’n cael eu cadw’n dda, ac mae’r staff bob amser yn gefnogol ac yn groesawgar.” – Beth, 21
“Dwi wir yn mwynhau ac yn edrych ymlaen at chwarae 5 bob ochr yng Nghanolfan Gôl Caerdydd bob wythnos! Mae ymuno â chynghrair merched Caerdydd wedi bod yn ffordd wych o ddad-straenu. Mae’n amgylchedd cyfeillgar a chalonogol ac mae’n hyfryd gweld Gôl yn cefnogi pêl-droed merched.” – Aimee, 33
Cyfleus a Hygyrch
- Amserau cicio cyntaf ychydig yn hwyrach ar gael i gyd-fynd ag amserlenni prysur.
- Noson gynghrair ychwanegol bosibl yn lansio yn fuan—cofrestrwch eich diddordeb!
Partneriaethau a Chymuned
- Cefnogir gan sefydliadau cymunedol.
- Croeso i dimau corfforaethol—delfrydol ar gyfer lles yn y gweithle.
Barod i Chwarae?
Cofrestrwch heddiw a darganfod pam mae merched ledled Caerdydd yn dewis Canolfannau Gôl am eu dos wythnosol o bêl-droed, ffitrwydd a chyfeillgarwch.
Cofrestru Fel Tîm Oes gennych chi dîm yn barod i fynd? Cofrestrwch eich tîm ar-lein nawr!
Cofrestru Fel Tîm
Oes gennych chi dîm yn barod i fynd? Cofrestrwch eich tîm ar-lein nawr!
Cofrestru Tîm
Cofrestru Fel Unigolyn
Cofrestrwch fel unigolyn a byddwn yn eich gosod mewn tîm croesawgar newydd!
Cofrestru Fel Unigolyn