Canolfannau Pêl-droed Gôl

Cartref Pêl-droed 5 Bob Ochr yng Nghaerdydd a Chasnewydd

Prif Gyrchfan Pêl-droed 5 a 7 Bob Ochr Caerdydd

Croeso i Ganolfannau Gôl, y dewis cyntaf am bêl-droed 5 a 7 bob ochr yng Nghaerdydd. Rydym yn cynnig y profiad pêl-droed gorau gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf a thechnoleg unigryw na fyddwch yn dod o hyd iddi yn unman arall yn y ddinas.

Beth sy’n gwneud Gôl yn unigryw?

  • Caeau 4G o’r Radd Flaenaf: Mae gennym cyd-weithiwrllawn-amser yn cynnal a chadw’r caeau bob bore, gan sicrhau arwyneb o’r safon uchaf ar gyfer pob gêm.
  • Camerâu ‘Action Replay’ Unigryw: Ni yw’r unig ganolfan yng Nghymru sy’n gallu recordio a darlledu hyd at 10 gêm y noson. Gallwch ail-fyw eich goliau gorau, dal eiliadau hudolus o barti eich plentyn, neu ddefnyddio’r lluniau yn ein sesiynau hyfforddi CBDC i wella eich sgiliau.
  • 20 Mlynedd o Brofiad: Fel canolfan 5 bob ochr bwrpasol gyntaf Caerdydd, rydym wedi treulio dau ddegawd yn perffeithio profiad y chwaraewr. P’un a ydych yn ymuno â chynghrair neu’n archebu gêm hamddenol, rydym yn cynnig trefniadaeth fanwl a gwasanaeth cwsmeriaid gwych.
  • Cofiwch taw ni sy’n rhedeg y cynghreiriau 5-bob-ochr mwya ym Mhrydain gan gynnwys yr unig cynghreiriau i’r ieuenctid ac i fenywod yn Ne Cymru

Ein Hanes

Agorwyd ein canolfan yn Ionawr 2006 – y cyntaf o’i fath yng Nghaerdydd, a ni oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnig caeau 4G i’r cyhoedd. Ers hynny, rydym wedi croesawu dros 100,000 o chwaraewyr ac wedi agor ein hail ganolfan yng Nghasnewydd ym 2009.

Rydym yn cynnig popeth o logi caeau hamddenol a chynghreiriau cystadleuol i bartïon plant a’n Hysgolion Pêl-droed poblogaidd.

Chwarae 5 Bob Ochr yng Nghaerdydd

Llogi Caeau

Gyda deg cae 5 bob ochr ac un cae 7 bob ochr 4G, ni yw canolfan bêl-droed fwyaf Caerdydd, gyda digon o le i dimau rheolaidd a gemau hamddenol.

Bwcio Cae

Cynghreiriau

Rydym yn cynnal y cynghreiriau 5 bob ochr mwyaf a gorau, gyda dros 230 o dimau yn chwarae rhwng dydd Sul a dydd Gwener. Mae ein hadrannau yn gytbwys ac yn cynnig gemau cystadleuol iawn.

Ymuno â Chynghrair

Ysgolion Pêl-droed

Mae ein hyfforddwyr cymwys yn cynnal sesiynau i ddatblygu sgiliau pêl-droed plant. Cynhelir ysgolion pêl-droed ar foreau Sadwrn ac yn ystod gwyliau ysgol.

Bwcio Ysgol Bêl-droed

Partïon Plant

Gyda chaeau caeedig, ystafell barti bwrpasol, ac opsiwn am hyfforddwr cymwys i drefnu gweithgareddau, ni yw’r dewis gorau ar gyfer partïon plant.

Gweld Opsiynau Parti

Gweithgareddau Gôl

Pêl-droed swigod (Bubble football), saethyddiaeth a mwy ar gyfer eich parti, ‘stag/hen do’ neu ddiwrnod adeiladu tîm corfforaethol!

Bwcio Gweithgaredd

Llogi Ystafell Ddigwyddiadau

Mae ein lolfa eang, sy’n cynnwys 3 sgrin HDMI, yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, diwrnodau hyfforddi a mwy.

Llogi’r Ystafell

Beth Rydym yn Ei Gynnig

  • Caeau 5 bob ochr o’r radd flaenaf yn yr awyr agored yng Nghaerdydd a Chasnewydd gyda llifoleuadau LED.
  • Adeilad gydag ystafelloedd newid dynion a menywod a chawodydd poeth.
  • Bar trwyddedig yn gweini bwyd a diod, ac yn dangos gemau byw TNT Sports a Sky Sports.
  • Uchafbwyntiau o Gae 1 a 2 ar ein sgrin.
  • Dros 100 o leoedd parcio gyda chamerâu diogelwch

Sut i Chwarae’n Rheolaidd yn Ein Canolfannau

Mae nifer o opsiynau ar gael i chwarae yn ein canolfannau ar gyfer chwaraewyr 4 oed a hŷn, gan gynnwys:

  • Ymuno â’n cynghreiriau 5 neu 7 bob ochr.
  • Llogi cae 4G (unwaith yn unig neu fel archeb bloc).
  • Twrnameintiau a chystadlaethau un diwrnod.
  • Partïon pêl-droed i blant.
  • Academi Pêl-droed Gôl i blant ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

Dyma gip ar yr adborth diweddar gan ein cwsmeriaid:

Lle gwych i gyfarfod am ychydig o ddiodydd ar ôl chwarae pêl-droed 5 bob ochr.

Hefyd yn lle gwych i fynd cyn gemau lleol neu ryngwladol. Canolfan bêl-droed gyfeillgar, deuluol yng nghalon Caerdydd.

Andrew Wilson

Llogwr Cae 5 bob ochr

Cyfleusterau ardderchog a staff/dyfarnwyr gwych.

Mae chwarae 5 bob ochr wir wedi fy helpu i wella fy ffitrwydd ac mae criw Gôl yn gwneud gwaith gwych yn y gymuned. Da iawn.

Alex Wedlake

Chwaraewr Cynghrair 5 bob ochr

Roedd parti ein mab gyda Gôl yn ffantastig! Mae’r tîm yn effeithlon, yn barod i helpu ac yn gyfeillgar. Roedd y bwyd yn hyfryd ac roedd yr hyfforddwr yn wych gyda’r plant. Pwyntiau bonws am gael hyfforddwr Cymraeg hefyd. Byddwn yn argymell parti yn Gôl yn fawr i blant sy’n caru pêl-droed!

Rhian Adams

Parti Pêl-droed Plant

Gwnaeth ein mab bythefnos o’u gwersyll pêl-droed haf a mwynhau’n arw. Mae’n rhedeg o 8:30am – 3:30pm neu 5:30pm. Daeth adref wedi blino’n lân! Rydym yn debygol o archebu eto flwyddyn nesaf yn ystod gwyliau’r haf.

Jon Beard

Ysgolion Pêl-droed Gwyliau

Beth Allwch Chi Ei Ddisgwyl Wrth Chwarae yn Ein Canolfan?

Dewch o Hyd i Ni

Dewch o Hyd i Ni

Gôl Centres Ltd, Cardiff

Ein Horiau Agor

Oriau agor

Amseroedd agor wythnosol

Dydd Llun
9 am – 10 pm
Dydd Mawrth
9 am – 10 pm
Dydd Mercher
9 am – 10 pm
Dydd Iau
9 am – 10 pm
Dydd Gwener
9 am – 10 pm
Dydd Sadwrn
9 am – 4 pm
Dydd Sul
9 am – 10 pm

Ein postiadau blog diweddar