Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block! Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block! Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block! Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block! Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block! Urgent: Help Street Football Wales raise £15,000 this month: bit.ly/4dyOZ5m🔥 Save £10 a week on a peak block!

Xtreme Dodgeball Caerdydd

Xtreme Dodgeball Caerdydd

Wedi’i gyflwyno gan ein partneriaid Xtreme, rydym yn gyffrous i gynnig Xtreme Dodgeball am y tro cyntaf yng Nghaerdydd.

Mae Xtreme Dodgeball yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn wallgof a llawn hwyl ar gyfer parti ‘stag’, parti ‘hen’, digwyddiad corfforaethol, neu hyd yn oed os ydych chi a’ch ffrindiau yn chwilio am ddigwyddiad cymdeithasol rheolaidd i’ch cadw’n heini mewn ffordd hwyliog.

Beth Sydd Wedi’i Gynnwys yn Ein Digwyddiad?

Gall aelodau partïon ‘stag’, ‘hen’ neu ddigwyddiadau hybu tîm edrych ymlaen at roi cynnig ar ein Xtreme Dodgeball, sy’n rhoi tro newydd ar y gêm dodgeball arferol. Yn ogystal â dodgeball traddodiadol, gallwch edrych ymlaen at roi cynnig ar Wrong Arm Dodgeball, Stag/Hen Hunt, Behind Enemy Lines a llawer mwy.

Os nad ydych yn rhan o ddigwyddiad penodol ond yn chwilio am ffordd hwyliog o gadw’n heini yn ardal Caerdydd, mae croeso i chi gofrestru ar gyfer ein cynghreiriau Xtreme Dodgeball  trwy ein ffonio ar 029 2037 5760.

Mae ein Xtreme Dodgeball yn addas i bawb – beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd neu sgiliau. Ar ôl sesiwn, rydych yn sicr o adael ein canolfan yn chwerthin.

Peidiwch ag anghofio – gallwch hefyd ddefnyddio ein Xtreme Dodgeball fel rhan o becyn gydag unrhyw un o’r Gweithgareddau Gôl eraill sydd ar gynnig.


Ble Rydym Ni?

Rydym wedi’n lleoli ychydig i lawr y ffordd o gartref tîm cenedlaethol Cymru, Stadiwm Dinas Caerdydd. Porwch y map rhyngweithiol isod i ddarganfod yn union ble rydym a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd atom.


Faint Mae’n Costio?

Mae pris y pen ar gyfer y gweithgaredd hwn yn amrywio yn dibynnu ar faint o bobl sy’n mynychu. Dylai’r canllaw hwn roi syniad i chi o’r gost i’ch grŵp:

Nifer y boblHydCost
1 – 101 awr£230
11 – 241 awrFel ar gyfer 10, plws £20 y pen
25+1.5 awrFel ar gyfer 10, plws £20 y pen

I gael amcangyfrif pris mwy cywir, mae croeso i chi ddefnyddio ein cyfrifiannell isod!

[Oedolion] [Plant]

Dewiswch Weithgaredd:

  • Pêl-droed Swigod (Bubble Football)
  • Saethyddiaeth ‘Battlezone’
  • Criced Turbo 10
  • Dodgeball Eithafol (Xtreme Dodgeball)
  • Mabolgampau Hen Ysgol
  • MegaMix (Unrhyw 2 Weithgaredd)

Nifer y Mynychwyr:

[Cyfrifo Pris]


Pa mor Hawdd yw hi i Archebu?

Mae archebu mor syml â dim.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ffonio ni ar 029 2037 5760 pan fydd gennych eich niferoedd terfynol, a bydd ein cydlynwyr digwyddiadau Gweithgareddau Gôl yn eich arwain trwy bopeth sydd angen i chi ei wybod i wneud eich diwrnod yn llwyddiant ysgubol.

Os nad ydych chi’n gallu ffonio ar hyn o bryd, mae croeso i chi anfon e-bost at cardiff@golcentres.co.uk a byddwn yn ceisio ymateb mor gyflym â phosib.

Fel arall, i gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.